Gair y Gweinidog Gweithgarwch Traidcraft
Cyhoeddiadau
Cysylltwch
Newyddion a Negeseuon
Yr Ysgol Sul
Pwy 'di pwy?





Lle ydym ni
Cysylltiadau

Y gobaith yw y bydd i’ch ymweliad a’r safle ennyn digon o chwilfrydedd ynoch i ymweld â ni yn ein hoedfaon os daw cyfle.. Gallaf eich sicrhau y bydd croeso twymgalon yn eich disgwyl. Y mae Penuel ers blynyddoedd yn croesawu cyfeillion o bob cefndir enwadol yn ogystal ag unigolion sydd hyd yn hyn , heb fod yn gysylltiedig ag unrhyw eglwys o gwbl.

Yr ydym yn arddel Iesu Grist yn Arglwydd ac yn Waredwr, a rhoddir cyfle i bobl aelod i gyfrannu o’i ddawn yng ngwasanaeth y Gwaredwr.

Yr ydym yn gwbl ymroddedig i gydweithio ag eglwysi eraill y ddinas drwy rwydwaith "CYTUN" a’r "Cyngor Eglwysi Rhyddion".

Cewch yma yn ein plith groestoriad hyfryd o bobl yn hanu o bob ran o Gymru. Y mae eu brwdfrydedd a’u hawydd i weithio dros Iesu Grist yn amlwg.

Os gallwn fod o unrhyw gymorth cysylltwch a ni drwy ddefnyddio’r llwybr priodol ar y safle.

Y mae yma ddrws a breichiau agored i’ch croesawu. Bendith arnoch!

Olaf Davies
Gweinidog

Gweithgarwch Traidcraft Pwy 'di pwy?