Llun Olaf Davies

Y Parchedig Olaf Davies
Gweinidog
Daeth Olaf i Gapel Penuel yn Ionawr 1992 wedi gweinidogaethu yn Sir Benfro, Dyffryn Teifi a Llyn ac Eifionydd. Y mae'n frodor o Ddyffryn Aman, yn briod â Helen ac mae ganddynt dri o blant. Y mae Olaf ar gael unrhyw bryd am sgwrs, ymweliad bugeiliol neu i drafod unrhyw fater yn ymwneud â gweinidogaeth yr Eglwys.

Llun Ann Morgan

Ann Bowen Morgan
Ysgrifennydd Cyffredinol
Yn enedigol o'r Rhyl, mae Ann yn briod â Densil ac mae ganddynt ddau o blant - Angharad ac Iwan. Mae'n athrawes gynradd yn Ysgol Craig y Don, Llandudno ac yn hoff iawn o gerddoriaeth ac o ganu'r delyn a'r piano. Mae'n drysorydd i Gyngor Eglwysi Rhyddion Bangor.

Llun Elen Landsdown

Elen Landsdown
Ysgrifennydd y Cyhoeddiadau
Yn enedigol o Fangor, mae Elen yn briod â Steve ac mae ganddynt ddwy o enethod - Gwenllïan a Lois. Cyfieithydd yn Ysbyty Gwynedd yw Elen. Ymhlith ei diddordebau mae'n un o olygyddion 'Y Goriad' (Papur Bro Bangor) ac yn Ysgrifennydd y Chwiorydd ym Mhenuel.

Llun Bill Davies

Bill Davies
Trysorydd
Yn enedigol o Borthmadog ac yn briod â Ruth. Mae ganddynt ddau o blant - Rhys a Branwen. Ef yw Cyfarwyddwr Personél Cyngor Gwynedd a bu am gyfnod yn ysgrifennydd Eglwys Penuel. Ymddiddora mewn drama, pêl-droed a chadw'n heini!

Llun Ruth Davies

Ruth Davies
Arolygwr yr Ysgol Sul
Yn enedigol o Bwllheli, mae'n briod â Bill (uchod) mae Ruth yn ddarlithydd mewn dylunio a thechnoleg yn Adran Addysg C.P.C. Bangor. Ei diddordebau yw gwaith llaw ac mewn dylunio a chreu baneri ar gyfer y capel.

Llun Dilwen Jones

Dilwen Jones
Trysorydd yr Offrwm
Y mae Dilwen wedi ei magu ym Mhenuel ac wedi treulio ei hoes yma. Bydd rhywbeth mawr o'i le os na fydd Dilwen yn gwenu! Y mae ei brwdfrydedd yn heintus ac yn ennyn edmygedd pawb sydd yn ei hadnabod. Bydd yn barod i gyflawni unrhyw dasg sydd o fewn ei gallu i'w wneud. Y mae wrth ei bodd gyda gwaith y plant a'r ieuenctid. Caffaeliad yn wir!