Penuel, Bangor www.penuelbangor.co.uk MAWRTH 2009
CYFARFODYDD
Dydd Sul, Mawrth 1 :
Oedfa Gymun am 10 ac oedfa am 5.30 dan ofal ein gweinidog.
Ysgol Sul am 11.
Dydd Iau, Chwef. 5 :
Cylch Ti a Fi, 9.15 - 11 o’r gloch.
Dydd Sul, Mawrth 8 :
Oedfa am 10 dan ofal ein
gweinidog a Chwrdd Eglwys.
Ysgol Sul am 11.
Oedfa Gymun yng Nghartref Bryn Llifon am 4.30.
Dydd Iau, Chwef. 12 :
Cylch Ti a Fi, 9.15
- 11 o’r gloch.
Dydd Sul, Mawrth 15 :
Oedfa am 10
dan ofal y Parchedig Eryl Wynn Davies, Llanfairpwll.
Ysgol Sul am 11.
Oedfa am 5.30 dan ofal y Parchedig Euros Jones, Llangefni.
Dydd Iau, Chwef. 19 :
Cylch Ti a
Fi, 9.15 - 11 o’r gloch.
Dydd Sul, Mawrth 22 :
Oedfa am 10 dan ofal ein gweinidog.
Ysgol Sul am 11.
Oedfa Undebol am 5.30 ym Mhenuel dan ofal ein gweinidog.
Dydd Iau, Chwef. 26 :
Cylch Ti a Fi, 9.15 - 11 o’r gloch.
Dydd Sul, Mawrth 29 :
Oedfaon am 10 a 5.30 dan
ofal ein gweinidog.
Ysgol Sul am 11.
DYLETSWYDDAU MAWRTH
Cyhoeddi : Gwilym Owen
Cymun : Eurfryn Davies
Sian Arwel Davies
Drws : R. Gwynedd Roberts
Alison Carden
BLODAU
Mawrth 1 : Sian Marland
Mawrth 8 : Kath Jones
Mawrth 15 : Bessie Jones
Mawrth 22 : Glenda Roberts
Mawrth 29 : Helen DaviesTraidcraft
Bore Sadwrn Mawrth 7ed 10 -12 o'r gloch.
YSGOL SUL
Ymweliad Delyth
Cafodd Delyth amser difyr yng nghwmni'r plant a'r bobl ifanc ar Sul agor y blychau cenhadol.
Bu yn son yn bennaf am
waith y Timau Gweithredu a chafwyd cyfeiriad e.bost Catrin Adey, Cymraes sy'n gweithio gyda'r tîm yn Rouen Ffrainc.
Dyma'r cyfeiriad ar gyfer unrhyw un fyddai'n hoffi anfon e.bost ati -
catrin.adey@hotmail.co.uk. Cawn gyfle i'w chyfarfod yn ystod yr Undeb.
Gweithgareddau
Mae'r Gwanwyn ar y trothwy a daw cyfle i'r Ysgol Sul fynd
ar drip neu hyd yn oed
fynd i dreulio penwythnos.
Os oes gennych syniadau, gwyntyllwch hwy gyda Bryn Tomos neu Dilwen.
Byddwn yn falch o glywed eich
syniadau.
CASGLWYR YR OFFRWM
Sul 1af y mis - Catrin a Rhys
Sul 2 - Rebecca a Merynne
Sul 3 - Gwenno a Manon
Sul 4 - Gwyn a Cai
( Os nad yw'r Sul yn gyfleus, allwch chi wneud trefniant gyda rhywun arall i gasglu yn eich lle os gwelwch yn dda
Dathlu Gwyl Dewi
Cynhelir
Noson Gwyl Dewi
yn y Festri
Nos Iau 12 Mawrth
am 7 o’r gloch
Gwr Gwadd : Gari Wyn.
Y GEHADAETH
Y Blychau
Mae'r cyfanswm wedi cyrraedd £987.91 erbyn hyn - ardderchog iawn.
Beth am fynd am y £1000?
Byddai hyn wedyn
wedi torri asgwrn cefn y £1200
benodwyd ar gyfer y flwyddyn.
Diolch i bawb fu wrthi'n ddygn yn cynorthwyo gyda'r cyfri!
Mae'n dipyn o waith agor
dwsin a mwy o flychau mewn byr amser!
Os hoffech gael blwch, mae gen i rai newydd.
Stampiau
Bydd y Dosbarth Ieuenctid yn didoli a phacio'r stampiau rwan ar gyfer eu danfon i'r BMS.
Diolch i bawb sydd wedi
cyfrannu.
Danfonir y cyflenwad nesaf yng Nghorffennaf, felly daliwch ati i gasglu!
Daeth gwerthiant stampiau yn 2008 a £14,000 i goffrau'r BMS.
Mae hyn yn record newydd yn rhagori ar yr un flaenorol o
£11,000.
Pwy fydda'n meddwl ynte.
Derbyniwyd 1,700 o barseli yn cynnwys 7.8 miliwn o stampiau.
DYWEDDIO
Llongyfarchiadau i Lois Lansdown a Gethin Mills ar eu dyweddïad yn Efrog Newydd ar 28 o Ionawr, diwrnod penblwydd Lois.
Daw Gethin o Gaerffili a’i waith yw is-deitlo rhaglenni i’r BBC yng Nghaerdydd.
PROFEDIGAETH
Ar y 17 o Chwefror fe
anwyd Celt Iolen,
mab i Hedd a Elin Rhys. Brawd bach i Cian Iolen ac wyr i Helen ac Olaf Davies.
Yn ddim ond wythnos oed fe fu farw Celt.
Yr ydym fel eglwys yn cydymdeimlo’n fawr iawn efo’r teulu yn eu trallod.
CYDYMDEIMLO
Cydymdeimlwn yn fawr gyda Jane Roberts a gollodd ei brawd yn ystod mis
Chwefror.
Eitemau o'r cwrdd diaconiaid
Drws Agored Pnawn Gwener
b>
Daeth Peter Bingham o'r lloches i'r di-gartref i anerch bnawn Gwener 13 o Chwefror a
phenderfynwyd ein bod yn cynnal y cysylltiad gyda’r lloches.
Awgrymwyd ein bod yn neilltuo casgliad rhydd trydydd Sul y
mis i’r lloches.
Mae angen pecynnau argyfwng arnynt.
Cwrdd Eglwys
Cynhelir cwrdd eglwys ar ôl oedfa'r bore ar Fawrth 8fed.
Y BRAU A’R BREGUS
(Pasiant yr Undeb)( Dyddiadau Ymarferion Nos Lun )
Mis Mawrth 9ed; 16eg; 23ain; 30ain
Mis Ebrill
6ed; 20fed
Mis Mai 11feg; 18fed; 25ain
Mis Mehefin 1af; 4ydd a’r 8fed
D.S. Wythnos yn
dechrau 15 Mehefin Bob Nos!!
Gobeithiwn weld tyrfa yn y cyfarfod cyntaf pan fydd Huw John Hughes yn ein tywys
drwy'r sgript.
Dyddiad olaf i dderbyn deunydd ar gyfer NEGESYDD EBRILL 2009 yw MAWRTH 22ain
b>