Eiliad neu ddwy........

Dewiswch Fywyd!

Y mae golygfa hollol ddychmygol yn un o ddramâu mwyaf dadleuol Dennis Potter “The Son of Man”, sy’n darlunio Iesu a’i ddisgyblion yn taro’n ddamweiniol ar fangre dienyddio. Yno yn raddol farw ar groesbrennau roedd y troseddwyr a’r gwrthryfelwyr diweddaraf a gosbwyd gan y milwyr Rhufeinig. Ym merw artaith Iesu o weld yr olygfa hon y mae’r saer coed ynddo fel pe tai yn ei feddiannu. “Drychwch ar y pren yna fechgyn” meddai. “Dyna i chi beth yw gwastraff ar bren da. Gallai pren o’r ansawdd yna fod wedi ei dorri a’i ddefnyddio i greu byrddau a chadeiriau o’r safon uchaf. Onid yw hi’n drychineb fod dynion o gael deunydd gwych yn mynnu ei ddefnyddio i greu croes!” Mae’r modd y defnyddiwn yr eiddo materol a roddir i ni yn arwydd da o’n hiechyd neu’n hafiechyd ysbrydol. Heb os nac oni bai nid yw’r argyfwng ariannol a masnachol diweddaraf ond yn adlewyrchiad o argyfwng dyfnach o lawer. Daeth yn hen bryd i ni edrych arnom ein hunain a gofyn pam o pam y bu i ni lwyddo i droi’r hyn a allai fod yn gymaint bendith i filiynau yn felltith ? Diddorol a dadlennol yw gwrando ar y trafodaethau sy’n arwain at yr etholiad arlywyddol yn yr Unol Daleithiau. Cawn yr argraff weithiau mai dymuniad etholwyr y wlad, sy’n ystyried eu hunan yn geidwaid gwareiddiad, yw nid ethol arweinydd sy’n barod i arwain y byd i roi mwy o bwys ar bobl na phethau, ond yn hytrach dewis o blith y ddau ymgeisydd y “Commander in Chief” mwyaf effeithiol! Dyma wlad, wrth gwrs, sydd mor brysur yn ceisio rhoi “trefn” ar wledydd eraill y byd anghofiodd yn llwyr am y miliynau o’i thrigolion sy’n methu fforddio ymweld â’r meddyg oherwydd costau eithafol y triniaethau mwyaf elfennol. “Why do men, given such good material, make from it a cross?” Dyna ddirgelwch pechod mae’n debyg, a hwyrach nad oes ateb wedi’r cyfan i’r cwestiwn “Pam?” Y mae dewis y drwg yn hytrach na’r da yn benderfyniad cwbl afresymol. Ond credwn mai nid dyna’r dirgelwch pennaf. Y dirgelwch pennaf yw sail ymwared cymdeithas a byd a gefnodd ar Dduw ac a gloddiodd iddi ei hunan bydewau na allant ddal dwr. Y dirgelwch pennaf yw’r modd y gall Duw ddefnyddio Croes a’i droi’n gyfrwng ein hiachawdwriaeth. Yn fwy nag erioed o’r blaen ein cyfrifoldeb fel aelodau eglwys Iesu Grist yw amlygu yn ein byw bob dydd cymaint yw oferedd duw trachwant a hunanoldeb ac ymroi i dystio i Dduw cyfiawnder a heddwch. Ni ellir oedi’n hir eto os am sicrhau y bydd yma wareiddiad ar gyfer ein plant a phlant ein plant.

Olaf Davies
Gweinidog





Gweinyddu