Ers blynyddoedd bellach bu Penuel yn cefnogi gwaith Traidcraft. Erbyn hyn Olaf a Helen Davies yw cynrychiolwyr Traidcraft yn yr ardal hon. Cynhelir Bore Coffi ar y Sadwrn cyntaf o bob mis 10.00- 12.00. Y mae cyfle i gael sgwrs a phrynu nwyddau amrywiol Traidcraft.

Coffi, Te, Bwydydd. Dillad a chrefftau.

Mynnwch fasnachu’n deg!!

Esiamplau o beth allwch chi brynu yn y Bore Coffi:

Siocled a melysion. Rhywbeth at ddant pawb!

Cardiau a phapur. (Gwaith llaw a phapur wedi ei ail-gylchu)

Te, Coffi, Bisgedi, Muesli a Mêl, Reis a Pasta.

Mae cyfle hefyd i archebu pob math o ddillad a chrefftau o'r catalog.