Rhwng 11.00 a 12.00 bob bore Sul, yn union wedi’r oedfa, cynhelir yr Ysgol Sul. Byddwn yn rhannu i 6 grwp, sef:-

  • dau ddosbarth o oedolion (un yn cyfarfod yn y capel ei hun a’r llall yn y gegin yn trafod materion llosg y dydd),
  • dosbarth ysgol uwchradd hyn,
  • dosbarth uwchradd iau a chynradd hyn,
  • dosbarth cynradd a
  • chylch chwarae ar gyfer y plant lleiaf.

Cynhelir nifer o weithgareddau cymdeithasol ar draws y flwyddyn. Bydd y plant yn cael cyfle i ymweld â’r sinema, yn mynd i fowlio deg, nofio, sglefrolio, sglefrio iâ ac ati, hefo’r Trip Ysgol Sul mor boblogaidd ag erioed, unai’n ymweliad undydd â ffair megis Pleasureland (Southport) neu Camelot (ger Preston), neu’n ymweliad penwythnos i rywle fel Nant Gwrtheyrn. Bydd cyfle hefyd yn flynyddol i’r plant a’r bobl ifanc dreulio cyfnod preswyl yn Llangrannog neu Goleg y Bala. 
 

Achlysur blynyddol poblogaidd arall yw’r daith feics - yn ystod y blynyddoedd diweddaraf buom ar hyd Lôn Las Ogwen o Nant Ffrancon i Borth Penrhyn, ac hefyd ar hyd Y Foryd o Gaernarfon i Dinas ac yn ôl. Mae’r daith gerdded flynyddol hefyd yn ddigwyddiad sy’n denu llawer - cawsom deithiau cofiadwy yn ardal Aberffraw, wrth ymweld â Thy Mawr Wybrnant, cartref Yr Esgob William Morgan ym Mhenmachno, ac i Riwddolion gerllaw Betws y Coed lle’r oeddem yn ymweld â’r ysgol lle’r oedd Gytun Arfon, cyfansoddwr y dôn “Llef”, yn brifathro.    
 

Beth bynnag fo’ch oed a’ch diddordeb mae rhywbeth ar gyfer pawb yn Ysgol Sul Penuel Bangor.